This site requires javascript... sorry, not sorry

Gwybodaeth Coronafirws

Mae prinder gyrwyr ar draws y diwydiant trafnidiaeth yn golygu bod rhai gweithredwyr yn newid eu hamserlenni ar fyr rybudd.

Close Notice

Yn teimlo ar goll yn eich dinas neu’ch tref newydd?

Gall y cyfnod pan fyddwch yn dechrau yn y brifysgol fod yn hynod o anodd, felly rydych wedi dod i’r man iawn i gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn eich ardal. Gallwch gynllunio eich teithiau, dod o hyd i’ch arosfannau bysiau a chael y newyddion diweddaraf am drafnidiaeth gyda Traveline Cymru.

Sgroliwch i lawr i gael gwybod mwy...

scroll down

Cynlluniwr taith

Mae’r brifysgol wedi dechrau! Oes angen i chi ddod o hyd i ffordd o deithio o’ch neuadd breswyl i’r campws?

Mae ein cynlluniwr taith yma i’ch helpu i gynllunio eich taith a darganfod y ffordd hawsaf o gyrraedd y mannau yr hoffech fynd iddynt. 

Ewch i'n Cynlluniwr Taith yma

Cynllunio eich taith

Teipiwch fan cychwyn a man gorffen eich taith yn y cynlluniwr taith, yn ogystal â’r dyddiad a’r amser yr hoffech chi deithio.

Pwyswch y botwm ‘Cynllunio fy nhaith’, ac yna bydd modd i chi weld yr opsiynau sydd ar gael i chi gyda’r holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen er mwyn cyflawni’r daith!

Beth am roi cynnig ar ei ddefnyddio yma?

Chwiliwr arosfannau bysiau

Oes angen i chi ddod o hyd i ffordd o gyrraedd y llyfrgell oherwydd bod dyddiad cwblhau eich traethawd cyntaf yn agosáu?

Os nad ydych yn siŵr pa fysiau sy’n rhedeg yn eich ardal, ewch i’n chwiliwr arosfannau bysiau!

Gweld ein gwefan

Yma, gallwch ddarganfod pa arosfannau bysiau sydd yn eich ardal a pha wasanaethau y gallwch eu dal yno.

Teipiwch eich lleoliad yn y chwiliwr arosfannau bysiau a chliciwch ar yr arosfannau er mwyn gweld pa deithiau fydd yn eu gadael nesaf.

Beth am roi cynnig ar ei ddefnyddio yma?

Ap Traveline Cymru 

Mae’r penwythnos wedi cyrraedd! Ydych chi’n cynllunio trip siopa gyda’ch ffrindiau?

Gallwch gynllunio eich taith, cadw eich hoff arosfannau bysiau er mwyn cael gafael arnynt yn hawdd, a llawer mwy! Gallwch wneud argraff ar eich ffrindiau drwy ddod o hyd i’r bws nesaf i fynd â chi adref, a hynny’n syth drwy bwyso botwm!

Lawrlwytho ein ap 

Drwy lawrlwytho ein ap dwyieithog rhad ac am ddim ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple, bydd yr holl wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus y bydd arnoch ei hangen i fynd o le i le ar gael i chi ar flaenau eich bysedd. 

 

Amserlenni

Dim ffa pob ar ôl yn y cwpwrdd? Mae’n bryd mynd i siopa am fwyd!

Ein ffonio ni

0300 200 22 33

Ffoniwch ein canolfan alwadau er mwyn siarad ag un o’n hasiantiaid cyfeillgar a fydd yn gallu dweud wrthych pryd y bydd eich bws nesaf yn cyrraedd ac a fydd yn gallu eich helpu gyda’ch ymholiadau am deithiau a’ch galluogi i lenwi eich cwpwrdd bwyd!

Yw eich gliniadur yn gyfleus?

Cymerwch gip ar ein cyfleuster defnyddiol ar gyfer chwilio am amserlenni ar ein gwefan, lle gallwch chwilio am eich llwybr bysiau er mwyn gweld yr amserlen lawn. Bydd copi PDF o’r amserlen berthnasol ar gael hefyd er mwyn i chi allu ei argraffu a mynd ag ef gyda chi!

Gallwn anfon neges destun atoch!

Ydych chi’n aros am y bws i fynd yn ôl i’ch neuadd breswyl ar ôl noson allan haeddiannol?

Defnyddiwch ein gwasanaeth negeseuon testun i gael gwybod beth yw’r 4 bws nesaf a fydd yn cyrraedd eich arhosfan. Efallai y bydd gennych amser i gael un ddawns fach arall!

Anfon neges destun atom!

Mae gan bob arhosfan bysiau god 7 llythyren unigryw sydd i’w weld ar yr arhosfan. Anfonwch y cod hwn mewn neges destun i 84268* a chewch ateb gennym yn rhad ac am ddim**!

Anfon neges destun nawr

* Nid yw 84268 yn rhif cyffredin. Gallai gostio mwy na neges destun arferol ac efallai na fydd yn rhan o unrhyw fwndeli tariff. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn symudol.

** Ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau dan sylw yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi dalu £0.25 am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau y tu allan i Gymru.

Problemau teithio

Peidiwch â gadael i broblemau teithio ddifetha eich cynlluniau!

Gallwch ddefnyddio ein gwefan cyn cynllunio eich taith, er mwyn chwilio am unrhyw broblemau teithio yn eich ardal leol. Gallwch hefyd ddefnyddio’r bar chwilio i chwilio am rif eich bws, er mwyn gweld a oes rhywbeth yn effeithio’n uniongyrchol ar lwybr eich taith.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf!

Dilynwch @TravelineCymru ar Twitter lle byddwn yn aildrydar y manylion diweddaraf am drafnidiaeth wrth iddynt gael eu cyhoeddi gan weithredwyr!

Siwrnai ddiogel i chi oddi wrth Traveline Cymru

Gallwch ffonio’r asiantiaid yn ein Canolfan
ar 0300 200 22 33

Gallwch fynd i'n gwefan
cymraeg.traveline.cymru

Rydym yn cynnig gwasanaeth negeseuon testun.
Rhif Traveline ar gyfer negeseuon testun yw 84268*

Gallwch lawrlwytho ap Traveline Cymru
ar gael ar ddyfeisiau iPhone ac Android.

* Nid yw 84268 yn rhif cyffredin. Gallai gostio mwy na neges destun arferol ac efallai na fydd yn rhan o unrhyw fwndeli tariff. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn symudol.

** Ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau dan sylw yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi dalu £0.25 am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau y tu allan i Gymru.